Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Hydref 2020
Amser:
09.31 -
12.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6600
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Jack Sargeant AS (yn lle Dawn Bowden AS) Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru Kate Johnson, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Phil Boshier (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) Masudah Ali (Cynghorydd Cyfreithiol) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Ychwanegodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, y byddai Suzy Davies AS yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd dros dro os byddai’n rhaid iddi adael y cyfarfod am unrhyw reswm.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AS, gyda Jack Sargeant AS yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 12 gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddi egluro meysydd penodol a drafodwyd yn ystod y sesiwn ac i ofyn y cwestiynau nad oedd amser i’w trafod.
2.3. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
· esboniad ysgrifenedig pam, ym marn Llywodraeth Cymru, y byddai’n amhriodol rhoi dyletswyddau ar bobl/cyrff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Bil i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac mai dim ond y Llywodraeth a’r Gweinidogion ddylai fod â dyletswydd o’r fath;
· manylion y gwelliannau/gwelliant y mae’n bwriadu eu cyflwyno, os yw’r Bil yn symud ymlaen at Gyfnod 2, mewn perthynas â’r gofyniad i addysgu Saesneg cyn 7 oed a galluogi trochi yn y Gymraeg;
· y wybodaeth ddiweddaraf am yr amcangyfrifon o ran costau’r Bil ar ôl ailddechrau a chwblhau’r gwaith perthnasol gyda rhanddeiliaid.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Cafodd y
cynnig ei gytuno.
5 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn
flaenorol.
6 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith, gan gytuno ar y materion a ganlyn:
- i gynnal sesiwn dystiolaeth y tymor nesaf i drafod busnes sy’n gysylltiedig â COVID-19;
- dull ar gyfer y gwrandawiad cyn penodi’r ymgeisydd a ffafrir ar gyfer rôl Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
- i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i gyflwyno crynodeb o ganfyddiadau’r Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad byr i wella ysgolion a chodi safonau, a oedd wedi’i oedi oherwydd y pandemig;
- pa feysydd yr hoffai’r Pwyllgor ganolbwyntio arnynt ym mhob sesiwn ar yr Adroddiad Blynyddol;
- i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig fanwl i helpu i lywio gwaith craffu’r Pwyllgor ar y gyllideb ddrafft;
- i ddychwelyd at y drafodaeth ar gyllid ysgolion yn y dyfodol;
- i ddychwelyd at y drafodaeth ar waith ar etifeddiaeth y Pwyllgor yn y dyfodol; a
- bod staff y
Pwyllgor yn cadw llygad ar fframweithiau cyffredin y DU sy’n
berthnasol i waith y Pwyllgor.